Galatians 5

Rhyddid wrth berthyn i'r Meseia

1Dŷn ni'n rhydd! Mae'r Meseia wedi'n gollwng ni'n rhydd! Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn aros felly, a gwrthod cario'r baich o fod yn gaeth byth eto.

2Gwrandwch yn ofalus! Dyma dw i, Paul, yn ei ddweud wrthoch chi – os dych chi'n mynd trwy'r ddefod o gael eich enwaedu yn y gobaith o blesio Duw, does gan y Meseia ddim i'w gynnig i chi bellach. 3Dw i'n eich rhybuddio chi eto – os ydy dyn yn cael ei enwaedu, mae ganddo gyfrifoldeb wedyn i wneud popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. 4Os dych chi'n ceisio cael perthynas iawn gyda Duw drwy gadw rheolau'r Gyfraith, dych chi wedi eich torri i ffwrdd oddi wrth y Meseia! Dych chi wedi colli gafael ar rodd Duw. 5Ond wrth gredu a byw yn nerth yr Ysbryd dŷn ni'n gallu edrych ymlaen yn frwd at gael perthynas hollol iawn gyda Duw – dyna'n gobaith sicr ni. 6Os oes gynnoch chi berthynas gyda'r Meseia Iesu does dim gwahaniaeth os dych chi wedi bod trwy'r ddefod o gael eich enwaedu neu beidio. Credu sy'n bwysig – ffydd yn mynegi ei hun mewn bywyd o gariad.

7Roeddech chi'n dod ymlaen mor dda. Pwy wnaeth eich rhwystro chi rhag ufuddhau i'r gwir? 8Does gan y fath syniadau ddim byd i'w wneud â'r Duw wnaeth eich galw chi ato'i hun! 9Fel mae'r hen ddywediad yn dweud: “Mae mymryn bach o furum yn lledu drwy'r toes i gyd.” Dyna mae drwg yn ei wneud! 10Dw i'n hyderus y bydd yr Arglwydd yn eich cadw chi rhag credu'n wahanol. Ond bydd Duw yn cosbi'r un sydd wedi bod yn eich drysu chi, pwy bynnag ydy e. 11Frodyr a chwiorydd, os ydw i'n dal i bregethu bod rhaid mynd trwy ddefod enwaediad, pam ydw i'n dal i gael fy erlid? Petawn i'n gwneud hynny, fyddai'r groes ddim problem i neb. 12Byddai'n dda gen i petai'r rhai sy'n creu'r helynt yn eich plith chi yn mynd yr holl ffordd ac yn sbaddu eu hunain!

13Ydych, ffrindiau annwyl, dych chi wedi'ch galw i fod yn rhydd. Ond dw i ddim yn sôn am benrhyddid, sy'n esgus i adael i'r chwantau eich rheoli chi. Sôn ydw i am y rhyddid i garu a gwasanaethu eich gilydd. 14Mae yna un gorchymyn sy'n crynhoi'r cwbl mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.” a 15Ond os dych chi'n gwneud dim byd ond cega ac ymosod ar eich gilydd, gwyliwch eich hunain! Byddwch chi'n dinistrio eich gilydd.

Bywyd yn yr Ysbryd

16Beth dw i'n ei ddweud ydy y dylech adael i'r Ysbryd reoli'ch bywydau chi, wedyn fyddwch chi ddim yn gwneud beth mae'r chwantau eisiau. 17Mae ein natur bechadurus ni am i ni wneud drwg – yn hollol groes i beth mae'r Ysbryd eisiau. Ond mae'r Ysbryd yn rhoi'r awydd i ni wneud fel arall, sef y gwrthwyneb i beth mae'r natur bechadurus eisiau. Mae brwydr barhaus yn mynd ymlaen – allwch chi ddim dianc rhagddi. 18Ond os ydy'r Ysbryd yn eich arwain chi, dych chi ddim yn gaeth i'r Gyfraith Iddewig bellach.

19Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a penrhyddid llwyr; 20hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol, 21eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw i'n eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud o'r blaen, fydd pobl sy'n byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw.

22Ond dyma'r ffrwyth mae'r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, 23addfwynder a hunanreolaeth. Does dim cyfraith yn erbyn pethau felly. 24Mae pobl y Meseia Iesu wedi lladd y natur bechadurus gyda'i nwydau a'i chwantau drwy ei hoelio hi ar y groes. 25Felly os ydy'r Ysbryd wedi rhoi bywyd i ni rhaid i ni adael i'r Ysbryd ein harwain ni. 26Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio'n gilydd a bod yn eiddigeddus o'n gilydd.

Copyright information for CYM